28/08/2026
Gwnaethpwyd y gilotîn hwn, o esgyrn dafad, gan garcharorion rhyfel Ffrengig yn ystod Rhyfeloedd Napoleon ar ddechrau'r 19eg Ganrif. Cafodd cannoedd o garcharorion Ffrengig, swyddogion yn bennaf, eu lletya yn Sir Drefaldwyn.
Fe wnaethant ddefnyddio eu hamser i adeiladu modelau fel hyn, a oedd yn boblogaidd yn Ffrainc.
Nid ydym yn gwybod union darddiad y model gilotîn hwn, ond gallwn ryfeddu at gymhlethdod a manylder ei ddyluniad a'i adeiladwaith.
Gallwch weld y model hwn yn Amgueddfa'r Lanfa yn y Trallwng.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
This guillotine, made of mutton bones, was made by French prisoners of war during the Napoleonic Wars in the early 19th Century. Several hundred French prisoners, mostly officers, were billeted in Montgomeryshire.
They used their time to build models like this, which were popular in France.
We don’t know the exact origins of this guillotine model, but we can marvel at the intricacy and detail of its design and construction.
You can see this model at Y Lanfa Museum in Welshpool.