Plas Glyn-y-Weddw

Plas Glyn-y-Weddw Canolfan Gelf a Threftadaeth o Bwysigrwydd Cenedlaethol • Arts and Heritage Centre of National Importance
(503)

Beth yw eich cynlluniau dros penwythnos gŵyl banc? 🌞Dewch i fwynhau ein Harddangosfa Haf, archwilio tiroedd hardd y Plas...
29/08/2026

Beth yw eich cynlluniau dros penwythnos gŵyl banc? 🌞

Dewch i fwynhau ein Harddangosfa Haf, archwilio tiroedd hardd y Plas a chael brecwast neu ginio yn ein caffi.

𝗢𝗿𝗶𝗮𝘂 𝗮𝗴𝗼𝗿 𝘆𝗿 𝗼𝗿𝗶𝗲𝗹:

🖼 Oriel: 9:30-17:00
🎟 Mynediad am ddim!

𝗢𝗿𝗶𝗮𝘂 𝗮𝗴𝗼𝗿 𝘆 𝗰𝗮𝗳𝗳𝗶:

🍳 Brecwast yn cael ei weini rhwng 9:30 ac 11:00
🥗 Prydau poeth yn cael eu gweini rhwng 12:00 a 15:15
🍰 Te a chacen yn cael eu gweini tan 16:15

Edrychwn ymlaen at gweld chi!

-

What are your plans this bank holiday? 🌞

Come and enjoy our Summer Exhibition, explore the beautiful grounds of the Plas and grab breakfast or lunch at our café.

𝗚𝗮𝗹𝗹𝗲𝗿𝘆 𝗼𝗽𝗲𝗻𝗶𝗻𝗴 𝗵𝗼𝘂𝗿𝘀:

🖼 Gallery: 9:30-17:00
🎟 Free entry!

𝗖𝗮𝗳é 𝗼𝗽𝗲𝗻𝗶𝗻𝗴 𝗵𝗼𝘂𝗿𝘀:

🍳 Breakfast served from 9:30-11:00
🥗 Hot meals served served from 12:00-15:15
🍰 Tea and cake served until 16:15

We look forward to seeing you!

27/08/2026

Dim ond wythnos ar ôl i wneud cais! ⏰

Mae ceisiadau ar gyfer ein Preswyliad Artist FFYNNU Celf yn cau ar y 4ydd o Fedi am 11yh.

Sut i wneud cais:
➡ Ewch i www.oriel.org.uk
👀 Darllenwch y canllawiau (fersiwn Hawdd ei Ddarllen ar gael)
💻 Cyflwynwch eich cais drwy ein ffurflen ar-lein

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni!
📧 𝘱𝘰𝘴𝘵@𝘰𝘳𝘪𝘦𝘭.𝘰𝘳𝘨.𝘶𝘬

-

Only 1 week left to apply! ⏰

A reminder that applications for our FFYNNU Celf Artist Residency close on the 4th of September at 11pm.

How to apply:
➡ Visit www.oriel.org.uk
👀 Read the guidelines (Easy Read version available)
💻 Submit your application via our online form

Have any questions? Get in touch!
📧 𝘱𝘰𝘴𝘵@𝘰𝘳𝘪𝘦𝘭.𝘰𝘳𝘨.𝘶𝘬

27/08/2026

Oriel ar gau tan bore fory oherwydd diffyg trydan

POWER CUT IN LLANBEDROG - Gallery and cafe closed until 9.30am on Friday 25th August

𝗠𝗼𝗺𝗲𝗻𝘁 - Moment mewn amser, Tudweiliog a'i chymuned. Gwanwyn 2026🗓 Arddangosfa yn parhau hyd at y 4ydd o Hydref📍 Theatr ...
26/08/2026

𝗠𝗼𝗺𝗲𝗻𝘁 - Moment mewn amser, Tudweiliog a'i chymuned. Gwanwyn 2026

🗓 Arddangosfa yn parhau hyd at y 4ydd o Hydref
📍 Theatr John Andrews, Plas Glyn-y-Weddw

Mae'r artist a'r ffotograffydd Anna Higson yn archwilio pobl, lleoedd a straeon ardal Tudweiliog yn Llŷn. Wedi'i hysbrydoli gan Gasgliad Geoff Charles a ffilm ‘Yr Etifeddiaeth’, mae hi'n cofnodi’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n bodoli yn y pentref, gan ddathlu ei arwyr di-glod a'r genhedlaeth nesaf sy'n cario’r etifeddiaeth yn ei blaen. Mae'r prosiect parhaus hwn yn dal moment mewn amser mewn man ble mae’r stori yn parhau i ddatblygu.

Wedi'i gomisiynu gan Plas Glyn-y-Weddw a CELF. Diolch eto i bobl Tudweiliog am rannu eu straeon, eu hatgofion a'u cymuned.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, dilynwch y ddolen ➡ https://www.oriel.org.uk/cy/digwyddiadau/2026moment

-

𝗠𝗼𝗺𝗲𝗻𝘁 - A moment in time, Tudweiliog and its community. Spring 2026.

🗓 Exhibition continues until the 4th of October
📍 John Andrews, Plas Glyn-y-Weddw

Artist and photographer Anna Higson explores the people, places, and stories that shape Tudweiliog in Llŷn. Inspired by the Geoff Charles' Collection and ‘Yr Etifeddiaeth’ (The Heritage) film, she documents the village's strong sense of community, celebrating both its unsung heroes and the next generation carrying its legacy forward. This ongoing project captures a moment in time in a place where the story continues to unfold.

Commissioned by Plas Glyn-y-Weddw and CELF. Another big thank you to the people of Tudweiliog for sharing their stories, memories, and community.

For more information on the exhibition, follow the link ➡ https://www.oriel.org.uk/en/events/2026/moment

𝙇𝙊𝘽𝙎𝙂𝙊𝙒𝙎Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r ffotograffydd Kiowa Casey a'r gwneuthurwr ffilm Eleri Parry i'n sesiwn arbe...
24/08/2026

𝙇𝙊𝘽𝙎𝙂𝙊𝙒𝙎

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r ffotograffydd Kiowa Casey a'r gwneuthurwr ffilm Eleri Parry i'n sesiwn arbennig nesaf o LOBSGOWS Coed Coexist.

🗓 Nos Iau, 10 Medi
⏰ 18:00-19:30

Fel Storiwr Gweledol Coed Coexist, bu Kiowa ac Eleri yn cofnodi perthnasoedd y prosiect – sy'n esblygu rhwng pobl, ecoleg, diwylliant a lle o fewn tirwedd coetir Cymru.

Bydd Kiowa Casey yn rhannu 'Winllan', llyfr ffotograffau a ysbrydolwyd gan sgyrsiau gyda artistiaid a weithiodd gyda siarcol o'r goeden ffawydd a disgynodd; mae'r gwaith yn archwilio themâu profiad bywyd, ymdeimlad o berthyn a chysylltiad.

Bydd Eleri Parry yn trafod ei chyfres o ffilmiau a gafodd ei chreu ar gyfer Coed Coexist, sy'n defnyddio delweddau ac adrodd straeon i archwilio cymuned, creadigrwydd a chysylltiad.

Ymunwch â ni i gael cipolwg ar eu proses greadigol wrth iddynt rannu eu profiad o weithio ochr yn ochr â'r artistiaid Coed Coexist.

🎟 Mynediad am ddim!
➡️ Archebwch drwy ddilyn y ddolen: https://www.oriel.org.uk/cy/digwyddiadau/2026lobsgows-coed-coexist-visual-storytellers

-

𝙇𝙊𝘽𝙎𝙂𝙊𝙒𝙎

We're looking forward to welcoming fine art photographer Kiowa Casey and filmmaker Eleri Parry to our next special Coed Coexist LOBSGOWS session.

🗓 Thursday evening, 10th of September
⏰ 18:00-19:30

As Coed Coexist's Visual Storytellers, Kiowa and Eleri documented the project's evolving relationships between people, ecology, culture and place within the Welsh woodland landscape.

Kiowa Casey will share 'Winllan', a photobook inspired by conversations with artists who worked with charcoal made from the fallen beech tree, exploring themes of lived experience, belonging and connection.

Eleri Parry will discuss her film series created for Coed Coexist, which uses imagery and storytelling to explore community, creativity, and connection.

Join us for an insight into their creative process as they share their experience of working alongside Coed Coexist artists.

🎟 Free entry!
➡️ Book by following the link: https://www.oriel.org.uk/en/events/2026/lobsgows-coed-coexist-visual-storytellers

Mae Iogis Bach yn ôl! 🧘‍♀️✨ 🪷Mae gennym dair sesiwn Ioga i Fabanod ym mis Medi, dan arweiniad Leri o Iogis Bach.Mae'r se...
22/08/2026

Mae Iogis Bach yn ôl! 🧘‍♀️✨ 🪷

Mae gennym dair sesiwn Ioga i Fabanod ym mis Medi, dan arweiniad Leri o Iogis Bach.

Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyflwyniad i thechnegau ioga a thylino babi ar gyfer cefnogi camau datblygiad eich babi. Hefyd gyda phwyslais ar llesiant ar gyfer rhieni/gwarchodwyr.

Naws y sesiynau yn ymlaciol gyda dim pwysau arno chi na'r babi.

🗓 Dydd Mercher 9 Medi
🗓 Dydd Mercher 16 Medi
🗓 Dydd Mercher 23 Medi

*𝘈𝘥𝘥𝘢𝘴 𝘪 8+ 𝘸𝘺𝘵𝘩𝘯𝘰𝘴 𝘰𝘦𝘥 - 𝘩𝘺𝘥 𝘢𝘵 𝘤𝘳𝘰𝘱𝘪𝘢𝘯
*𝘙𝘩𝘢𝘪𝘥 𝘢𝘳𝘤𝘩𝘦𝘣𝘶 𝘭𝘭𝘦, 𝘭𝘭𝘦𝘧𝘺𝘥𝘥 𝘤𝘺𝘧𝘺𝘯𝘨𝘦𝘥𝘪𝘨 𝘢𝘳 𝘨𝘢𝘦𝘭

⏰ 10:30-12:00
🎟 Mynediad rhad ac am ddim!
➡ Archebwch drwy ddilyn y ddolen: https://www.oriel.org.uk/cy/digwyddiadau/2026iogis-bach-ioga-i-babanod

Os yw'r sesiwn yn llawn, cysylltwch ag Iogis Bach i ymuno â'r rhestr aros 📧[email protected]

-

Iogis Bach is back! 🧘‍♀️✨ 🪷

We have three sessions of Yoga for Babies this September, hosted by Leri from Iogis Bach.

These sessions give a broad introduction to baby yoga and massage techniques to support your baby's developmental milestones. There'll also be an emphasis on parent/caregiver wellbeing.

The sessions are relaxed with no pressure on you or your baby.

🗓 Wednesday 9th September
🗓 Wednesday 16th September
🗓 Wednesday 23rd September

*𝘚𝘶𝘪𝘵𝘢𝘣𝘭𝘦 𝘧𝘳𝘰𝘮 8+ 𝘸𝘦𝘦𝘬𝘴 - 𝘶𝘱 𝘵𝘰 𝘢𝘤𝘵𝘪𝘷𝘦 𝘤𝘳𝘢𝘸𝘭𝘪𝘯𝘨
*𝘓𝘪𝘮𝘪𝘵𝘦𝘥 𝘴𝘱𝘢𝘤𝘦𝘴 𝘢𝘷𝘢𝘪𝘭𝘢𝘣𝘭𝘦

⏰ 10:30-12:00
🎟 Free entry!
➡ Book by following the link: https://www.oriel.org.uk/en/events/2026/iogis-bach-yoga-for-babies

If the session is full, please get in touch with Iogis Bach to join the waiting list 📧[email protected]

Oeddech chi'n gwybod fod FFYNNU Celf yn gyfnod preswyl sy'n talu ffi i artistiaid?Mae'r ffi o £3,500 ar eich cyfer chi –...
20/08/2026

Oeddech chi'n gwybod fod FFYNNU Celf yn gyfnod preswyl sy'n talu ffi i artistiaid?

Mae'r ffi o £3,500 ar eich cyfer chi – i gefnogi eich amser, eich ymchwil a'ch ymarfer creadigol yn ystod y cyfnod preswyl! 🙌

Yn ogystal â'r ffi artist, byddwch hefyd yn derbyn:

✨ Llety ym Mhlas Glyn-y-Weddw
✨ Gweithle stiwdio
✨ Mentora a chymorth proffesiynol
✨ Cymorth ariannol ar gyfer costau teithio a chostau byw dyddiol
✨ Cyllideb o £500 ar gyfer deunyddiau
✨ Mynediad at Gronfa Hygyrchedd ychwanegol

Dysgwch fwy am y prosiect a sut i wneud cais drwy ddilyn y ddolen ➡ https://www.oriel.org.uk/cy/prosiectau/ffynnu/artist-residency-open-call

🗓 Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 4 Medi 2026 am 11yh.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau!

-

Did you know FFYNNU Celf is a paid artist residency?

The £3,500 artist fee for you - to support your time, research and creative practice during the residency! 🙌

Alongside the artist fee, you'll also receive:

✨ Accommodation at Plas Glyn-y-Weddw
✨ Studio workspace
✨ Mentoring and professional support
✨ Financial support for travel expenses and daily subsistence
✨ A £500 materials budget
✨ Access to an additional Access Fund

Find out more about the project and how to apply by following the link: https://www.oriel.org.uk/en/projects/ffynnu/artist-residency-open-call

🗓 Applications close on the 4th September, 2026 at 11pm.

We look forward to hearing from you!

O Gymru i Kyiv (a nôl) 🎼🗓 Dydd Sul 6 Medi⏰ 14:00Mae’r ffidlwr Jack M. Campbell a’r pianydd Pwyll ap Siôn yn perfformio f...
19/08/2026

O Gymru i Kyiv (a nôl) 🎼

🗓 Dydd Sul 6 Medi
⏰ 14:00

Mae’r ffidlwr Jack M. Campbell a’r pianydd Pwyll ap Siôn yn perfformio fel Duologue, deuawd cerddoriaeth gyfoes a ffurfiwyd yn 2025. Cynhaliwyd eu perfformiad cyntaf yn Kyiv, Wcráin – dinas a gafodd ei rhwygo gan ryfel – gan ysbrydoli rhaglen sy’n myfyrio ar le, gwydnwch a chysylltiad trwy gerddoriaeth.

Mae’r cyngerdd yn cynnwys gweithiau gan Philip Glass ac Arvo Pärt ochr yn ochr â darn clodwiw Campbell, 'Birdsong', a darn ap Siôn, 'The Bird Has Flown' – teyrnged deimladwy i Wcráin. Ar hyn o bryd, mae’r ddeuawd yn recordio eu halbwm cyntaf o drefniannau o gerddoriaeth Philip Glass, i nodi pen-blwydd y cyfansoddwr yn 90 oed yn 2027.

🎟 £12.00 / £10.00 (i aelodau)
➡ Archebwch drwy ddilyn y ddolen: https://www.oriel.org.uk/cy/digwyddiadau/2026duologue-pwyll-ap-sion-jack-m-campbell

-

O Gymru i Kyiv (a nôl) – From Cymru to Kyiv (and back) 🎼

🗓 Sunday 6th September
⏰ 14:00

Violinist Jack M. Campbell and pianist Pwyll ap Siôn perform as Duologue, a contemporary music duo formed in 2025. Their debut performance took place in war-torn Kyiv, Ukraine, inspiring a programme that reflects on place, resilience and connection through music.

The concert features works by Philip Glass and Arvo Pärt alongside Campbell's acclaimed Birdsong and ap Siôn's The Bird Has Flown, a moving homage to Ukraine. The duo is currently recording its debut album of Philip Glass arrangements, celebrating the composer's 90th birthday in 2027.

🎟 £12.00 / £10.00 (for members)
➡ Book by following the link: https://www.oriel.org.uk/en/events/2026/duologue-pwyll-ap-sion-jack-m-campbell

Bywyd Gwledig yn Llŷn ac Eifionydd – Drwy lens Geoff Charles 🎞🗓 Arddangosfa yn parhau gyd at y 4ydd o HydrefMae ffotogra...
18/08/2026

Bywyd Gwledig yn Llŷn ac Eifionydd – Drwy lens Geoff Charles 🎞

🗓 Arddangosfa yn parhau gyd at y 4ydd o Hydref

Mae ffotograffau 𝗚𝗲𝗼𝗳𝗳 𝗖𝗵𝗮𝗿𝗹𝗲𝘀 (𝟭𝟵𝟬𝟵–𝟮𝟬𝟬𝟮) yn dogfennu bywyd yn y Gymru wledig. Trwy ganiatad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyflwynir detholiad o ddelweddau a dynnwyd yn lleol, ynghyd a ffilm ‘Yr Etifeddiaeth’, a grёwyd ganddo gyda’r newyddiadurwr a darlledwr John Roberts Williams yn 1949.

Galluogwyd y benthyciadau trwy’r prosiect CELF sydd yn anelu at arddangos gweithiau celf cyfoes o’r casgliad cenedlaethol mewn rhwydwaith o orielau ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar i brosiect CELF a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am wneud yr arddangosfa hon yn bosib.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, dilynwch y ddolen ➡ https://www.oriel.org.uk/cy/digwyddiadau/2026bywyd-gwledig-yn-llyn-ac-eifionydd-drwy-lens-geoff-charles

-

Rural Life in Llŷn and Eifionydd - Through the lens of Geoff Charles 🎞

🗓 Exhibition continues until the 4th of October

The photographs of 𝗚𝗲𝗼𝗳𝗳 𝗖𝗵𝗮𝗿𝗹𝗲𝘀 (𝟭𝟵𝟬𝟵–𝟮𝟬𝟬𝟮) document life in rural Wales. A selection of photographs taken across Llŷn and Eifionydd have been loaned by the National Library of Wales and is presented alongside the 1949 film Yr Etifeddiaeth (The Heritage), created by Geoff Charles with journalist and broadcaster John Roberts Williams.

These loans have been made possible through the CELF project, which aims to exhibit works from the national collection in galleries across Wales. We are grateful to the CELF project and the National Library of Wales for making this exhibition possible.

For more information about the exhibition, follow the link ➡ https://www.oriel.org.uk/en/events/2026/rural-life-in-llyn-and-eifionydd-through-the-lens-of-geoff-charles

Am berfformiad anhygoel gan Troedio Trawsnewid ddoe! ✨🎪Diolch enfawr i'r perfformwyr, ac i bawb a ddaeth draw i fwynhau'...
13/08/2026

Am berfformiad anhygoel gan Troedio Trawsnewid ddoe! ✨🎪

Diolch enfawr i'r perfformwyr, ac i bawb a ddaeth draw i fwynhau'r sioe ac i gymryd rhan yn y gweithdai Awyrol a Jyglo.

-

What an incredible performance from Journey of the Shapeshifters yesterday! ✨🎪

A huge thank you to the performers, and to everyone who came along to enjoy the show and take part in the Aerial and Juggling workshops.

Address

Plas Glyn-y-Weddw
Llanbedrog
LL537TT

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Plas Glyn-y-Weddw posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share

Category