Eisiau bod yng nghanol y stori? Dewch i brofi hanes byw diwydiant a ffordd o fyw sydd wedi’u naddu i’n tirwedd. Yma yn hen weithdai peiriannau chwarel lechi enfawr Dinorwig, rydyn ni’n rhannu stori anhygoel y diwydiant llechi – diwydiant Cymreig a Chymraeg i’r carn – o’r grefft i’r gymuned. Cewch weld chwarelwyr profiadol yn hollti llechi a gwylio’r gof wrth ei waith. Cewch ryfeddu at olwyn ddŵr f
wyaf tir mawr Prydain a chamu i dai’r chwarelwyr, bob un yn cyfleu cyfnodau allweddol yn hanes y diwydiant – o’i ddechreuad ym 1861, i Streic Fawr y Penrhyn ym 1901 a chau chwarel Dinorwig ym 1969. Mae mynediad AM DDIM diolch i nawdd Llywodraeth Cymru. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymuno â ni, gwirfoddoli neu gyfrannu. Don't just visit history, be part of it and travel into the past of an industry and a way of life that has chiselled itself into our landscape. Located in the former Engineering Workshops of the enormous Dinorwig Slate Quarry – we tell the astounding story of the Welsh slate industry – ‘the most Welsh of Welsh industries’ - from its craftmanship to its communities! Enjoy slate splitting demonstrations with our experienced quarrymen and watch the blacksmith at work, marvel at the largest waterwheel on mainland Britain and visit the Quarrymen’s houses which show life in 3 key time periods of the industry; 1861 at its start, 1901 during the Penrhyn Lockout and 1969 when Dinorwig quarry was finally closed. Our entry is FREE to all thanks to funding from the Welsh Government. Every purchase you make from us and every gift you give us, however small or large, will help us ensure that Amgueddfa Cymru belongs to everyone and is here for everyone to use. Play your part in Wales’ story: by volunteering, by joining, by donating.