Llefa'r Cerrig - Stones Shout Out

Llefa'r Cerrig - Stones Shout Out Prosiect ar draws Esgobaeth Bangor, gyda'r nod o adnewyddu a gwella rhai o'n heglwysi mwyaf hanesyddol a hardd.

A project across the Diocese of Bangor, aiming to restore and improve some of our most historic and beautiful churches.

Yn dilyn cryn alw a llawer o gwestiynau yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoed...
21/03/2024

Yn dilyn cryn alw a llawer o gwestiynau yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd am brosiect y Gronfa Ffyniant Bro ddydd Mawrth 23ain Ebrill o 15.00yh – 18.00yh. Bydd hwn yn gyfle gwych i drafod a dilyn cynnydd yr holl brosiectau yng Ngahergybi a ariennir o’r Gronfa Ffyniant Bro , gan gynnwys ein un ni! Ymunwch â’n Rheolwr Prosiect a Swyddog Cefnogi Prosiect yn Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi am gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y gwaith ar y gweill yn Cybi Sant ac Eglwys y Bedd. Bydd gennym lawer o wybodaeth wrth law, yn ogystal â phosteri, y cynlluniau diweddaraf, a lluniau o’r gwaith hyd yn hyn. Dyma’r sesiwn olaf cyn i ni ddechrau o ddifri ar y gwaith, felly gwnewch yn fawr o’r cyfle, rydym yma i helpu!

-----------------------------------------------------------------

Due to popular demand and lots of questions recently, the IACC are hosting another LUF project public engagement event on Tuesday 23rd April from 15.00pm – 18.00pm. This is a great opportunity to hear about and follow the progress of all of the LUF – funded projects going on in Holyhead, including our own! Join our Project Manager and Project Support officer at the Market Hall in Holyhead for an opportunity to ask us any questions about the ongoing works at St. Cybi’s and Eglwys y Bedd. We will have lots of information at hand, as well as posters, up to date plans, and pictures of the work so far. This will be the last session before works really kick in to gear, so make the most of us, we are here to help!

Dyn ni'n ymwybodol o nifer o bryderon am y gwaith yng Nghaergybi sydd wedi'u mynegi ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn ddiwe...
09/03/2024

Dyn ni'n ymwybodol o nifer o bryderon am y gwaith yng Nghaergybi sydd wedi'u mynegi ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn ddiweddar, y mae rhai ohonynt yn seiliedig ar wybodaeth anghywir. Dyn ni'n gweithio ar ddiweddariadau i'n gwefan i ddarparu gwybodaeth well am y cynlluniau presennol, ond yn y cyfamser dyn ni wedi cyhoeddi atebion i rai cwestiynau cyffredin yma: https://bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/llefarcerrig/caergybi/faqs/

We are aware of a number of concerns regarding the works in Holyhead that have been expressed on Social Media recently, some of which are based on incorrect information. We are working on updates to our website to provide better information regarding the latest plans, but in the meantime we have answered some frequently asked questions here:

https://bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/llefarcerrig/caergybi/faqs/

Yn anffodus, nid yw Cybi Sant ar gael i'r cyhoedd ar hyn o bryd oherwydd y gwaith ar y safle. Os byddwch yn cysylltu â'r Ardal Weinidogaeth fel y byddech fel arfer, byddant yn gallu eich cyfeirio at eglwysi eraill yn yr ardal y gellir eu harchebu ar gyfer Bedyddiadau, Priodasau ac Angladdau tra bod...

Mae'n bleser gennym i weld erthygl ar brosiect Llefa'r Cerrig yn Eglwysi Hanesyddol 2023 mis hwn a ysgrifennwyd gan Gano...
18/01/2024

Mae'n bleser gennym i weld erthygl ar brosiect Llefa'r Cerrig yn Eglwysi Hanesyddol 2023 mis hwn a ysgrifennwyd gan Ganon Janet Gough, OBE. Gweler tudalennau 28-30 am wybodaeth am bum eglwys y prosiect a'r hyn yr ydym ni'n gwneud i hybu lleihau carbon a chadw gofodau naturiol. Rydym ni'n ddiolchgar i Ganon Janet am ei chefnogi parhaus.

---------------------------------------

We are delighted to see an article on the Llefa'r Cerrig project featuring in the Historic Churches 2023 magazine this month, written by Canon Janet Gough, OBE. See pages 28-30 for information on the five project churches, and what we are doing to promote carbon reduction and preserve natural spaces. We are grateful to Canon Janet for her ongoing support.

https://www.buildingconservation.com/books/churches2023/index.html

Ymunwch â’n rheolwr prosiect a swyddog cefnogi prosiect yng Nghanolfan Ucheldre ar ddydd Mercher 16eg Ionawr 2024 o 3-7y...
13/01/2024

Ymunwch â’n rheolwr prosiect a swyddog cefnogi prosiect yng Nghanolfan Ucheldre ar ddydd Mercher 16eg Ionawr 2024 o 3-7yh i glywed mwy am y gwaith sydd yn mynd yn ei flaen gennym yn Eglwys Cybi Sant ac Eglwys y Bedd. Sesiwn galw-i-mewn yw hwn wedi ei redeg gan gyngor sir Ynys Môn i roi cyfle i aelodau’r gymuned ofyn cwestiynau am y gwahanol brosiectau a ariennir gan y LUF sy’n digwydd yng Nghaergybi, a gweld beth yr ydym yn ei wneud. Gobeithiwn eich gweld yno!

-------------------------------------

Join our project manager and project support officer at the Ucheldre Centre on Wednesday 16th January 2024 from 3-7pm to hear more about our ongoing work at St. Cybi’s Church and Eglwys y Bedd. This is a drop-in session run by the Isle of Anglesey county council giving members of the community the opportunity to ask questions about the various LUF funded projects happening in Holyhead and to see what we are up to. We hope to see you there!

Sylwch fod ein swyddfa ar gau o yfory, dydd Gwener 22 Rhagfyr, tan dydd Mawrth 2 Ionawr. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwydd...
21/12/2023

Sylwch fod ein swyddfa ar gau o yfory, dydd Gwener 22 Rhagfyr, tan dydd Mawrth 2 Ionawr. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Please note that our office is closed from tomorrow. Friday 22 December, until Tuesday 2 January. We wish you all a Merry Christmas and a Happy New Year!

Capel presennol Eglwys y Bedd oedd corff yr eglwys wreiddiol o’r 14eg ganrif. Aeth y gangell yn adfail yng nghanol y 18f...
07/12/2023

Capel presennol Eglwys y Bedd oedd corff yr eglwys wreiddiol o’r 14eg ganrif. Aeth y gangell yn adfail yng nghanol y 18fed ganrif a cafodd ei lefelu yn ddiweddarach yn gynnar yn y 19eg ganrif. Wrth gloddio’r ffos archwiliadol yn arwain o ddrws blaen y capel hyd at y darn sy’n cysylltu yn y prif lwybr trwy’r fynwent, bu i’n harcheolegwyr ddarganfod rhannau o ben dwyreiniol gwreiddiol yr eglwys, ei muriau, a rhai claddedigaethau. Byddai safle’r claddedigaethau yn fras yn ardal cangell yr eglwys wreiddiol ac roedd hyn yn arfer cyffredin trwy gydol y 17eg, 18fed a’r 19eg ganrif. Credir mai adeilad y capel presennol oedd corff yr eglwys wreiddiol, ond dros y blynyddoedd mae wedi bod yn gapel, yn ysgol fechan, ac yn ystafell y plwyf ar gyfer eglwys Cybi Sant drws nesa. Tybir bod Cybi Sant ei hun wedi ei gladdu dan gangell yr eglwys wreiddiol, yn agos i’r man lle’r ydym wedi bod yn cloddio. Fodd bynnag, mae ein harcheolegwyr wedi ein sicrhau nad yw ein gwaith cloddio yn mynd yn ddigon dwfn i ni ddod ar ei draws o!

--------------------------------------

The current Eglwys y Bedd chapel is the nave of the original 14th century church. The chancel was left to ruin in the mid 18th century, and later levelled in the early 19th century. Whilst excavating the investigative trench leading from the front door of the chapel to the join at the main walkway through the churchyard, our archaeologists have discovered parts of the original east end of the church, its walls, and some burials. The site of the burials would have been roughly in the chancel area of the original church, which was a common practice throughout the 17th, 18th and 19th centuries. The current chapel building is thought to be the nave of the original church, but has since served as a chapel, small school, and parish room for the neighbouring St. Cybi’s church. It is speculated that St. Cybi himself is buried under the chancel of the original church, close to where we have been excavating. However, our archaeologists have assured us that our excavations are not going to be deep enough to meet him!

Wrth agor un o’r ffosydd archwiliadol yn arwain o’r bwâu yn y mur Rhufeinig ym mhorth blaen y fynwent fewnol, daeth ein ...
05/12/2023

Wrth agor un o’r ffosydd archwiliadol yn arwain o’r bwâu yn y mur Rhufeinig ym mhorth blaen y fynwent fewnol, daeth ein harcheolegwyr o hyd i rhywbeth oedd yn edrych yn debyg i ran o’r llwybr gwreiddiol a osodwyd gan wladychwyr Rhufeinig ar y safle filoedd o flynyddoedd yn ôl. Er bod y bwâu presennol yn dyddio’n gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, maent wedi eu gosod yn safle’r bwâu Rhufeinig a adeiladwyd pan godwyd y gaer a’r mur gwreiddiol. Trwy’r bwâu hyn, o dan y ddaear, dadorchuddiwyd cyfres o feini mawr gwastad. Roedd yn ymddangos eu bod o’r un garreg â’r rhai a geir ledled Ynys Cybi, ond yn ddiddorol, ymddengys i gerrig eraill, rhai llai, a gwahanol yn ddaearegol, gael eu gosod yn y bylchau, gan greu beth allai fod ar un adeg yn llwybr o waith dynion. Felly, mae ymwelwyr i’r fynwent heddiw wedi bod yn cerdded yn ôl traed y gwladychwyr Rhufeinig gwreiddiol yng Nghaergybi, ond ychydig droedfeddi yn uwch ac ar lawrfeini llawer llyfnach!

-----------------------------------------------------------------

Whilst excavating one of the investigative trenches leading from the arches in the Roman wall to the front gate of the inner churchyard, our archaeologists have discovered what looks to be part of the original footpath laid by Roman settlers at the site thousands of years ago. Whilst the present arches are from the early nineteenth century, they are placed in the location of the Roman arches built when the original fort and wall were constructed. Through these arches, underneath the ground, a series of large, flattened stones have been uncovered. They appeared to be the same as the rocks found across Holy Island, but interesingly, other smaller, geologically different rocks appeared to have been inserted into the gaps, creating what could once have been a man-made footpath. So, modern visitors to the churchyard have been walking in the footsteps of the original Roman settlers in Holyhead, albeit a few feet higher and on much smoother flagstones!

Mae’r gwaith archeolegol yn cyrraedd ei uchafbwynt ar y safle yn Cybi Sant ac Eglwys y Bedd yng Nghaergybi. Cloddiwyd dw...
28/11/2023

Mae’r gwaith archeolegol yn cyrraedd ei uchafbwynt ar y safle yn Cybi Sant ac Eglwys y Bedd yng Nghaergybi. Cloddiwyd dwy ffos archwiliadol i asesu lefelau aflonyddu’r tir o dan y llwybr troed bresennol a’r ardal o flaen y capel er mwyn archwilio lleoliadau posib ar gyfer gwasanaethau tanddaearol megis dŵr a draeniau. Adeiladwyd Eglwys Cybi Sant ac Eglwys y Bedd ar safle’r “Caer Gybi” Rufeinig wreiddiol ar Ynys Cybi, y tynnwyd enw’r dref ohoni. O ganlyniad i’r lleoliad, a’r hanes sy’n dyddio yn ôl 2000 o flynyddoedd, mae’r archeoleg yn y fynwent yn hynod sensitif. Felly, mae’r archeolegwyr ac ymgynghorwyr heneb gofrestredig yn gweithio yn ofalus ac yn diogelu popeth yr ydym yn dod ar ei draws i sicrhau bod ein gwaith yn y capel yn cadw hen hanes y safle.

---------------------------------------

Archaeological works are reaching their peak this week on site at St. Cybi’s and Eglwys y Bedd in Holyhead. Two investigative trenches have been dug to assess the levels of disturbance beneath the existing footpath and area in front of the chapel in order to explore potential locations for underground services such as water and drainage. St. Cybi’s Church and Eglwys y Bedd are built on the site of the original Roman fort, “Caer Gybi” on Holy Island, from which the town gets its name. As a result of the location, and its 2000-year history, the archaeology in the church yard is incredibly sensitive. Therefore, our archaeologists and scheduled monument advisers are working very carefully and protecting everything we come across to ensure our works at the chapel preserve the ancient history of the site.

Mae ein harcheolegwyr yn ôl ar y safle yn Cybi Sant, Caergybi, dros yr wythnosau nesaf i wneud gwaith cloddio archeolego...
31/10/2023

Mae ein harcheolegwyr yn ôl ar y safle yn Cybi Sant, Caergybi, dros yr wythnosau nesaf i wneud gwaith cloddio archeolegol pellach yn yr ardal tu allan. Ar hyn o bryd maent yn agor ffos o flaen Eglwys y Bedd i archwilio faint o waith sydd wedi bod eisoes yn y tir, a chanfod lleoliad gwasanaethau megis cyflenwad dŵr, trydan, a nwy i’r adeilad, ac i roi syniad i ni o’r posibiliadau ar gyfer cynnwys gwasanaethau draeniad newydd. Ar un adeg lleoliad cangell Eglwys y Bedd oedd yr ardal sy’n cael ei archwilio, a gallwn weld olion o’r adeilad gwreiddiol yn barod. Ymhen ychydig wythnosau bydd y ffos yn dyfnhau a bydd gennym fwy o syniad o hanes y safle.

---------------------------------------
Our archaeologists are back on site at St. Cybi’s, Holyhead, for the next few weeks for further archaeological excavations in the churchyard. They are currently digging a trench at the front of Eglwys y Bedd to investigate the levels of disturbance in the ground, the location of existing services, such as water, electricity, and gas supply to the building, and to give us an idea of the potential for accommodating new drainage services. The area currently being excavated was once the location of the chancel at Eglwys y Bedd, and already we can see potential traces of the original building. As the weeks pass, the trench will get deeper and we will have more of an idea of the history of the site.

Dydd Mercher diwethaf, mynychodd ein rheolwr prosiect a’r swyddog cefnogi prosiect weithgaredd ymgysylltu â’r gymuned yn...
21/09/2023

Dydd Mercher diwethaf, mynychodd ein rheolwr prosiect a’r swyddog cefnogi prosiect weithgaredd ymgysylltu â’r gymuned yn neuadd y dref, Caergybi. Cawsom sgwrs gyda llawer o bobl o’r gymuned, yn ogystal â’r cyfle i rwydweithio gyda phrosiectau eraill sy’n cael budd o’r a***n Ffyniant Bro yng Nghaergybi. Rhoddwyd 2.2 miliwn o bunnoedd mewn cyllid i Llefa’r Cerrig ac Esgobaeth Bangor i wneud y gwaith yn Cybi Sant ac Eglwys y Bedd, a gyda’i gilydd dyfarnwyd 22 miliwn i Gaergybi i gael ei rannu rhwng y gwahanol brosiectau. Bydd yn gyffrous gweld sut y bydd y prosiectau eraill yn datblygu ochr yn ochr â’n gwaith ni, ac rydym yn edrych ymlaen i rannu diweddariadau ar gynnydd yn Cybi Sant ac Eglwys y Bedd fel y mae’r gwaith yn dechrau ar y safle dros y gaeaf.

--------------------------------------

Last Wednesday, our project manager and project support officer attended a Levelling up Fund community engagement event at Holyhead town hall. We spoke to lots of people from the community, as well as had the opportunity to network with other projects benefitting from the LUF funding in Holyhead. Llefa’r Cerrig and the Diocese of Bangor were allocated 2.2 million pounds worth of funding to carry out the works at St. Cybi’s and Eglwys y Bedd, and an overall 22 million was allocated to Holyhead to be divided between the various projects. We are excited to see how the other projects develop alongside our works, and we look forward to sharing updates on the progress at St. Cybi’s and Eglwys y Bedd as works begin on site in the winter.

Capel bychan yn dyddio o’r 14eg ganrif yw Eglwys y Bedd yng nghornel de-orllewinol mynwent eglwys Cybi Sant, Caergybi. F...
12/09/2023

Capel bychan yn dyddio o’r 14eg ganrif yw Eglwys y Bedd yng nghornel de-orllewinol mynwent eglwys Cybi Sant, Caergybi. Fel yr awgryma’r enw, mae’n dynodi lleoliad cell wreiddiol Cybi Sant. Dywedir hefyd i’r safle fod yn fan claddu Seregri, rhyfelwr Gwyddelig o’r 5ed ganrif. Yn 1833 pan gloddiwyd adfeilion y capel gwreiddiol, adroddwyd bod arch garreg fawr yn cynnwys “esgyrn dynol o faint aruthrol” wedi eu canfod ar ochr ogleddol y capel lle y dywedwyd i Seregri gael ei gladdu. Yn y 18fed ganrif, defnyddiwyd yr adeilad fel yr ysgol gyntaf yng Nghaergybi gan Thomas Ellis, rheithor eglwys Cybi Sant ar y pryd. Ers y 19eg ganrif, mae Eglwys y Bedd wedi cael ei defnyddio fel ystafell eglwys gan yr addolwyr yn Eglwys Cybi Sant.
------------------------------------------
Eglwys y Bedd is a small 14th century chapel in the southwest corner of the churchyard at St Cybi’s, Holyhead. Eglwys y Bedd means “church of the grave”, and marks the location of St. Cybi’s original cell. The site is also rumoured to be the burial place of Seregri, a 5th century Irish warrior. In 1833 when the ruins of the original chapel were excavated, it was reported that a large stone coffin containing “human bones of prodigious size” was found at the north side of the chapel where Seregri was rumoured to be buried. In the 18th century, Thomas Ellis, the rector of St. Cybi’s at the time repurposed it as the first school in Holyhead. Since the 19th century, Eglwys y Bedd has been used as a church room by the worshippers at St. Cybi’s.

Roedd Cybi Sant yn gefnder i Dewi, nawddsant Cymru. Yn hanu yn wreiddiol o Gernyw roedd yn fab i Salomon, Brenin yng Ngh...
06/09/2023

Roedd Cybi Sant yn gefnder i Dewi, nawddsant Cymru. Yn hanu yn wreiddiol o Gernyw roedd yn fab i Salomon, Brenin yng Nghernyw. Wedi bod ar bererindod i Judea Bysantaidd a Jerusalem, dychwelodd i Gernyw a chlywed am farwolaeth ei dad, a’i fod, fel aer y deyrnas am ddod yn frenin. Gwrthododd, a theithio yn hytrach i Dde Cymru, lle y sefydlodd eglwys Llanddyfrwyr–yn–Edeligion. Yn y diwedd, cyrhaeddodd Ogledd Cymru a sefydlu ei hun yn Llangybi ar benrhyn Llŷn, lle y mae Ffynnon Gybi gyda’i dyfroedd rhinweddol. Cynigiodd Maelgwn, Brenin Gwynedd, y gaer Rufeinig yng Nghaergybi i Cybi lle y sefydlodd fynachlog fawr ac adeiladu’r eglwys wreiddiol. Dywedir i Cybi Sant gael ei gladdu dan gangell yr eglwys wreiddiol, ychydig i’r dwyrain o lle y saif Eglwys y Bedd heddiw.

------------------------------------------

St Cybi was the cousin of David, patron saint of Wales. He originated from Cornwall and was the son of Salomon, a King of Cornwall. After travelling on a pilgrimage to Byzantine Judea and Jerusalem, he returned to Cornwall to learn of his father’s death, and as heir to the kingdom, was to become King. He declined, and instead travelled to South Wales, where he founded the church of Llanddyfryr – yn-Edeligion. Eventually, he arrived in North Wales and settled at Llangybi on the Llŷn peninsula, where Ffynnon Gybi ( St. Cybi’s well) whose waters are said to have healing properties is located. Maelgwn, King of Gwynedd offered Cybi the Roman fort at Holyhead where he founded a large monastery and built the original church. St. Cybi is rumoured to be buried underneath the chancel of the original church, just to the east of where Eglwys y Bedd stands today.

(c) Bro Cybi

Mae Eglwys Cybi Sant yn un o’r pum eglwys sydd wedi eu cynnwys ym mhrosiect Llefa’r Cerrig wedi ei redeg gan Esgobaeth B...
31/08/2023

Mae Eglwys Cybi Sant yn un o’r pum eglwys sydd wedi eu cynnwys ym mhrosiect Llefa’r Cerrig wedi ei redeg gan Esgobaeth Bangor. Mae’n eglwys ganoloesol wedi ei lleoli o fewn caer Rufeinig yng Nghaergybi. Dyddia’r adeilad gwreiddiol i tua 540 OC a cafodd ei adeiladu gan Cybi Sant, y dywedir iddo gael ei gladdu dan gangell yr eglwys wreiddiol. Wedi i’r Llychlynwyr ymosod ar Brydain yn y 10fed ganrif, dinistriwyd y rhan fwyaf o’r adeilad gwreiddiol. Adeiladwyd yr adeilad presennol yn y 13eg ganrif, ond difrodwyd rhai rhannau gan fyddin Harri IV yn y 15fed ganrif. Ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd, aildrefnwyd tu mewn yr eglwys yn llwyr gan Gilbert Scott (1811 – 1878), ac mae’r teils a seddau’r côr yn dal i fod yno hyd heddiw.

------------------------------------------

St. Cybi’s Church is one of five churches covered by the Llefa’r Cerrig project run by Bangor Diocese. It is a medieval church situated within a roman fort in holyhead. The original building dates back to roughly 540 AD and was constructed by St. Cybi, who is rumoured to buried underneath the chancel of the original church. After the Vikings invaded Britain in the 10th century, most of the original building was destroyed. The current building was constructed in the 13th century, but some parts were damaged by the invading armies of Henry IV in the 15th century. In the late Victorian era, the interior of the church was completely reordered by Gilbert Scott (1811 – 1878), and the tiles and choir stalls are still in place to this day.

Mae’r archeolegwyr yn erbyn hyn yn gorffen y gwaith o ail-lenwi’r tyllau profi a gloddiwyd yn eglwys Cybi Sant, ac mae’r...
22/08/2023

Mae’r archeolegwyr yn erbyn hyn yn gorffen y gwaith o ail-lenwi’r tyllau profi a gloddiwyd yn eglwys Cybi Sant, ac mae’r gwaith glanhau mawr wedi dechrau! Roedd teils llawr Cybi Sant wedi eu gorchuddio â charped am bron i hanner can mlynedd, ac roedd hwn wedi ei ludo i’r llawr gyda glud cryf, sydd wedi gadael haen drwchus o lwch a gweddillion ar ei ôl. Mae’r gwaith o lanhau’r lloriau yn drylwyr wedi dechrau, yn arbennig yng nghefn y corff ac o flaen y prif allor, gan ddefnyddio defnyddiau glanhau arbenigol.

-----------------------------------------------------------------

The archeologists are now in the final stages of re-filling the trial pits dug at St. Cybi’s church, and now the clean-up operation has begun! The floor tiles at St. Cybi’s were covered with carpet for nearly fifty years, which was glued down using a strong adhesive, which has left behind a thick layer of dust and residue. Work is now underway to thoroughly clean the floors using a specialist floor cleaner, particularly at the back of the nave and in front of the high altar.

r ydym wedi bod yn brysur yn gweithio gyda’n penseiri i ddewis defnyddiau ar gyfer y llawr fel rhan o’r gwaith estyniad ...
16/08/2023

r ydym wedi bod yn brysur yn gweithio gyda’n penseiri i ddewis defnyddiau ar gyfer y llawr fel rhan o’r gwaith estyniad yn Eglwys y Bedd. Rydym yn defnyddio calchfaen lleol o Ynys Môn, wedi ei gloddio ym Moelfre. Mae hanes hir o gloddio calchfaen ar Ynys Môn. Mae’r calchfaen carbonifferaidd yma, sydd yn edrych fel marmor brychlwyd neu fraith unwaith y mae wedi ei loywi, yn aml yn cael ei farchnata fel “Marmor Môn”. Gellir gweld defnydd o galchfaen o chwareli Penmon, Moelfre, Parc Dinmor, a Flagstaff yn lleol ar gestyll Biwmares a Chaernarfon, Pont y Borth, a Phont Britannia. Llawer pellach i ffwrdd, fe’i defnyddiwyd yn Neuadd Dref Birmingham!

-----------------------------------------------------------------

We have been busy working with our architects to choose materials for the flooring as part of extension works at Eglwys y Bedd. We are using local Anglesey limestone, quarried in Moelfre. There is a long history of limestone quarrying on Anglesey. This carboniferous limestone, which when polished produces a grey mottled or variegated marble appearance is often marketed as “Anglesey Marble”. Limestone from quarries at Penmon, Moelfre, Dinmor Park, and Flagstaff can be found locally at both Beaumaris and Caernarfon castles, the Menai Suspension Bridge and the Britannia Bridge. It can even be found much further afield at Birmingham Town Hall!

Rydym wedi bod yn dewis defnyddiau ar gyfer tu allan y gwaith estyniad yn Eglwys y Bedd. Yn unol â’r defnyddiau sydd yn ...
14/08/2023

Rydym wedi bod yn dewis defnyddiau ar gyfer tu allan y gwaith estyniad yn Eglwys y Bedd. Yn unol â’r defnyddiau sydd yn yr adeilad yn barod, lliwiau’r mur Rhufeinig o amgylch, ac Eglwys Cybi Sant cyfagos, mae gennym ddiddordeb mewn cael gorffeniad copr. Gorffennwyd y drysau gwydr sy’n arwain i mewn i eglwys Cybi Sant mewn efydd, sydd â chysylltiadau cryfion i’r ardal leol. Aloi yw efydd wedi ei wneud yn bennaf o gopr, a oedd yn cael ei fwyngloddio ar draws Gogledd Cymru ac ar Ynys Môn am ganrifoedd, yn fwyaf enwog yn chwareli Sygun ym Meddgelert, ac yn y “Deyrnas Gopr” yn Amlwch.

-----------------------------------------------------------------
At Eglwys y Bedd, we have been choosing the external materials for the extension work. In keeping with the building’s current materials, the colours of the surrounding Roman wall, and the neighbouring St. Cybi’s Church, we are particularly interested in a copper finish. The glass doors leading into St. Cybi’s church are finished in bronze, which has strong links to the local area. Bronze is an alloy which consists primarily of copper, which has been mined across North Wales and on Anglesey for centuries, notably at the Sygun copper mines at Beddgelert, and at the “Copper Kingdom” at Amlwch.

Penderfynodd rhywun lleol cyfeillgar alw i mewn a goruchwylio'r archeologwyr yn ystod eu gwaith cloddio yn y gangell - n...
09/08/2023

Penderfynodd rhywun lleol cyfeillgar alw i mewn a goruchwylio'r archeologwyr yn ystod eu gwaith cloddio yn y gangell - neu efallai ei fod eisiau lloches rhag tywydd Caergybi!

----------------------------------------------------------------

A friendly local decided to come in and supervise the archaeologists during their excavation work in the chancel – or maybe he just wanted to take shelter from the Holyhead weather!

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae tîm o archeolegwyr wedi bod yn cloddio dan y teils a'r seddau yn eglwys Cybi Sant, Caergy...
07/08/2023

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae tîm o archeolegwyr wedi bod yn cloddio dan y teils a'r seddau yn eglwys Cybi Sant, Caergybi, i geisio ein helpu i deall mwy am yr haenau sydd dan y llawr presennol. Dan yr haen Fictorianaidd, wedi ei osod gan Gilbert Scott yn ystod gwaith aildrefnu'r egwlys y 1876-1879, rydym wedi darganfod casgliad mawr o esgyrn dynol rhydd o ddyddiad anhysbys, sy'n ymddangos iddynt fod wedi cael eu hail-gladdu mewn pydew o dan y gangell, ac oedd yn tarddu mae'n debyg o nifer o feddau o fewn y fynwent. Bydd unrhyw weddillion sy'n cael eu codi yn cael eu hail-gladdu mewn safle mwy addas yn y fynwent yn ddiweddarach. Mae'r gwaith wedi cychwyn i adfer y pridd a symudwyd, ac i ail-osod y teils cyn iddynt gael eu glanhau yn drylwyr, a bydd y rhain y cael eu hadnewyddu yn ddiweddarach yn y prosiect.

------------------------------------------

Over the last week, a team of archaeologists have been excavating underneath the tiles and pews at St. Cybi’s Church, Holyhead to help us better understand the layers beneath the current floor. Underneath the Victorian layer, laid by Gilbert Scott during reordering of the church in 1876-1879, we have discovered a large collection of unarticulated human remains of unknown date, which appear to have been reinterred, likely from multiple graves within the churchyard in a pit beneath the chancel. Any remains removed will be reinterred at a more appropriate location within the churchyard at a later date. Work is now underway to replace the displaced earth and re-lay the floor ahead of a thorough cleaning of the tiles which will be restored further along the project.

Fis Gorffennaf, ymwelodd tim o wirfoddolwyr ag Eglwys Cybi Sant, Caergybi, i'n helpu i godi'r carpedi coch a osodwyd yn ...
04/08/2023

Fis Gorffennaf, ymwelodd tim o wirfoddolwyr ag Eglwys Cybi Sant, Caergybi, i'n helpu i godi'r carpedi coch a osodwyd yn ddiweddar yn yr 20fed ganrif. Oddi tanynt, deuthum o hyd i chwe cofeb yng nghapel Dewi Sant, yn ogystal â nifer mwy yn y corff. Erbyn hyn mae modd gweld y teils Fictorianaidd addurrniedig a osowyd yn y gangell ac wrth y prif allor yn ystod gwaith adnewyddu Scott yn hwyr yn 19eg ganrif.

-----------------------------------------------------------------

In July, a team of volunteers visited St. Cybi’s, Holyhead to help us to lift the red carpets laid in the late 20th Century. Underneath, we exposed six memorials in the chapel of St. David, as well as a several more in the nave. In the chancel and up at the high altar, the ornate Victorian tiles, laid during the Scott restoration in the late 19th century, are now visible.

Mae newyddion gwych fod Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo cais Cyngor Sir Ynys Môn am nawdd "Levelling up" ar gyfer Caerg...
19/01/2023

Mae newyddion gwych fod Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo cais Cyngor Sir Ynys Môn am nawdd "Levelling up" ar gyfer Caergybi, gan gynnwys gweithiau Llefa'r Cerrig yn eglwys Cybi Sant. Bydd Datganiad i'r wasg llawn yn ddilyn.

More than 100 projects awarded share of £2.1 billion from Round 2 of government’s flagship Levelling Up Fund to create jobs and boost the economy

Excellent news yesterday that the UK Government has approved IACC's bid for Levelling-up funding for Holyhead, including...
19/01/2023

Excellent news yesterday that the UK Government has approved IACC's bid for Levelling-up funding for Holyhead, including the Llefa'r Cerrig works at St Cybi's church. Full press release to follow.

More than 100 projects awarded share of £2.1 billion from Round 2 of government’s flagship Levelling Up Fund to create jobs and boost the economy

Newyddion mawr am bartneriaeth pwysig ar gyfer y prosiect!Big news about an important partnership for the project!
14/12/2022

Newyddion mawr am bartneriaeth pwysig ar gyfer y prosiect!

Big news about an important partnership for the project!

Mae Tîm Prosiect Llefa’r Cerrig yn falch o gadarnhau, ar ran Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor, penodiad Donald Insall Associates Ltd fel Penseiri Prosiect ar gyfer bob un o’r pum safle yn y Prosiect Llefa’r Cerrig. Daw’r penodiad yn dilyn proses tendr agored a gafodd nifer o gynigion yn dod i ...

Mae hi'n hyfryd dod ag arddangosfa "Llefa'r Cerrig" i Gaergybi yr wythnos hon. Diolch i Rob Wardle a thîm eglwys Cybi Sa...
18/07/2022

Mae hi'n hyfryd dod ag arddangosfa "Llefa'r Cerrig" i Gaergybi yr wythnos hon. Diolch i Rob Wardle a thîm eglwys Cybi Sant am eu croeso.

It's wonderful to bring the "Llefa'r Cerrig" exhibition to Holyhead this week. Thanks to Rob Wardle and the St Cybi's church team for their welcome.

15/05/2022
21/02/2022
21/02/2022
21/02/2022

Address

Tŷ Deiniol, Cathedral Close
Bangor
LL571RL

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llefa'r Cerrig - Stones Shout Out posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share

Category


Other Museums in Bangor

Show All